Mae'r daith yn cychwyn o orsaf Gilfach Ddu ym Mharc Gwledig Padarn, ar hyd yr estyniad newydd i bentref Llanberis , heibio i Amgueddfa Lechi Cymru a Chastell hanesyddol Dolbadarn . Ar ddiwrnod clir, mae golygfeydd godidog ar draws Llyn Peris tuag at Fwlch Llanberis yn ymestyn o'ch blaen. Mae Gorsaf Llanberis yn fan cyfleus ar gyfer ymweld â siopau, gwestai a bwytai Llanberis, yn ogystal â Thrên Bach yr Wyddfa a Chanolfan Ymwelwyr y Mynydd Trydan . O'r fan hon, mae'r trên yn eich cludo yn syth drwy Barc Gwledig Padarn ar hyd lannau Llyn Padarn i ben y daith ym Mhenllyn. Mae'n eithaf cyfyng yma, ac felly mae'n well aros ar y trên i fwynhau'r golygfeydd. Ar y ffordd yn ôl, mae'r trên yn aros am ennyd yng Nghei Llydan. Gallwch aros yma am bicnic wrth y llyn, neu ymweld â chanolfan Cwm Derwen gerllaw, a dal trên hwyrach yn ôl i Gilfach Ddu. Tua 60 munud yw hyd y daith gyfan, os byddwch yn dewis aros ar y trên.
Mae caffi gorsaf Gilfach Ddu yn agored pan fydd y trenau'n rhedeg rhwng y Pasg a mis Hydref. Agorwyd estyniad newydd i'r siop anrhegion yno yn ddiweddar, sy'n cynnig amrywiaeth o nwyddau i'r teulu i gyd.
Mae cerbyd wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Byddai'n syniad da i chi adael i ni wybod ymlaen llaw eich bod yn dod, gan fod lle yn y cerbyd yma yn gyfyngedig.
Mae'r rheilffordd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr sy'n dod i Gymru i deithio ar y Trenau Bach heb orfod gwario gormod o arian na threulio gormod o amser yn gwneud hynny.
Saif pentref Llanberis mewn man godidog wrth droed Yr Wyddfa, sef yr uchaf o fynyddoedd Cymru a Lloegr. Ond nid y golygfeydd arbennig yma oedd y rheswm y tu ôl i sefydlu'r pentref yno. Roedd y chwareli llechi ar fynydd Elidir gerllaw wedi ehangu'n gyflym oherwydd y galw mawr am ddeunyddiau adeiladu yn ystod chwyldro diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ehangodd gweithlu 'Chwareli Dinorwig' i dros 3000, ac yn sgil hynny y datblygodd Llanberis, yn gartref i'r chwarelwyr.
Gydag agor y rheilffordd o Lanberis i gopa'r Wyddfa yn 1897, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr yn dod ar eu gwyliau, ac mae pwysigrwydd twristiaeth i'r economi lleol wedi ehangu'n gyson ers hynny, i'r un graddau ag y mae gwaith y chwareli wedi edwino.
Roedd 1969 yn garreg filltir bwysig yn hanes y pentref. Yn y flwyddyn honno, daeth gwaith y chwaerli i ben yn llwyr, gan ryddhau llawer o dir ac eiddo at ddibenion eraill. Cadwyd llawer o'r tir hwn ar gyfer mwynhad ymwelwyr, ac ers hynny, datblygwyd y tir hwn i ffurfio Parc Gwledig Padarn.
Erbyn heddiw, mae stryd fawr Llanberis yn brysur iawn, gyda'i siopau bach diddorol a nifer o wahanol lefydd i fwyta ac aros. Mae sawl llwybr cerdded yn cychwyn oddi yma i'r mynyddoedd, ac fe gewch fanylion llawn gan y Ganolfan Ymwelwyr ar y Stryd Fawr.
Oherwydd cyfyngiadau o ran lle ym Mhenllyn, ynghyd â’r peryglon sy’n codi o dagfeydd yn y ffyrdd cul iawn, mae’n anodd i ymwelwyr ymuno â’r trenau ar y pwynt hwn. Byddwn felly yn dechrau ein taith yng Ngorsaf Parc Padarn – a elwir yn lleol yn Gilfach Ddu – er ei fod wrth gwrs bellach yn bosibl dechrau o Orsaf Llanberis.
Gwerthir tocynnau ar gyfer y daith ar y trên yn Adeilad yr Orsaf, ac felly hefyd ystod o anrhegion, llyfrau, cofroddion a lluniaeth.
Wrth fynd ar y trên, sylwir bod gan y coetsis ddrysau ar un ochr yn unig. Mae hyn oherwydd bod yr holl orsafoedd ar un ochr yn unig, ac mae’n rhagofal diogelwch ychwanegol er mwyn atal unrhyw un rhag syrthio i mewn i’r llyn ar yr ochr arall!
Prisiau Compartment yn unig.£26 am un compartment yn eistedd hyd at 6 o bobl. |
|
Rydym yn caniatáu cŵn |
Hawlfraint © 2021 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd